R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan
buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Eluned Parrott (Canol De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am addysg gwyddoniaeth yng Nghymru? OAQ(4)1570(FM)
2. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe):A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cyfrifoldebau Llywodraeth Cymru dros ddiogelwch gwylwyr mewn digwyddiadau chwaraeon yng Nghymru? OAQ(4)1559(FM)
3. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw llwyddiant mwyaf Llywodraeth Cymru wrth fynd i’r afael â thlodi yng Nghymru? OAQ(4)1569(FM)W
4. Aled Roberts (Gogledd Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd i fynd i'r afael â phrinder staff yn y GIG sy'n gallu siarad Cymraeg? OAQ(4)1562(FM)W
5. Mark Isherwood (Gogledd Cymru):Pa ganllawiau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u darparu i awdurdodau lleol o ran pennu eu cynlluniau cyllideb?OAQ(4)1561(FM)
6. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog nodi pryd y bydd y Bil Anghenion Addysgol Arbennig yn cael ei gyflwyno?OAQ(4)1558(FM)
7. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddarparu addysg am ddim i blant tair oed? OAQ(4)1560(FM)
8. Lynne Neagle (Torfaen):A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu unrhyw drafodaethau y mae wedi’u cael gyda Gweinidogion mewn cysylltiad â’r hyn a elwir yn gyffuriau anterth cyfreithlon? OAQ(4)1568(FM)
9. Peter Black (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ffioedd a delir i sefydliadau allanol i reoli rhaglenni sy’n gysylltiedig â’i strategaeth yn erbyn tlodi? OAQ(4)1554(FM)
10. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru):Pa ganllawiau y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi i awdurdodau addysg lleol i ddelio â sefyllfaoedd lle mae amgylchiadau ariannol yn creu anhawster i gydymffurfio â rheolau gwisg ysgol? OAQ(4)1567(FM)W
11. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd cynhyrchu ynni adnewyddadwy yng Nghymru? OAQ(4)1555(FM)
12. Byron Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran trafnidiaeth integredig yng Nghymru? OAQ(4)1565(FM)
13. Darren Millar (Gorllewin Clwyd):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y gwariant ar iechyd yng Nghymru? OAQ(4)1552(FM)
14. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi economi gorllewin Cymru?OAQ(4)1553(FM)
15. David Rees (Aberafan):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio gwyddoniaeth i wella’r economi?OAQ(4)1566(FM)